Rhosydd B&B

Gwely a Brecwast Rhosydd

Pwllheli, Penrhyn Llŷn

Tŷ unllawr yw'r Rhosydd ar gyrion Pwllheli, ryw ¼ milltir o lan y môr, cwrs golff a'r ganolfan hamdden. Mae'r dref tua 10 mun. o waith cerdded, lle mae siopau, tai bwyta, banciau, eglwysi a chapeli, sinema a thafarndai. Mae yn radd 1 ar gyfer ymwelwyr ag anabledd a darperir bwyd ar gyfer llysieuwyr neu ddiets arbennig. Dim ysmygu. Mae gwasanaeth bysiau yn pasio'r drws, ac mae lle i dri cerbyd barcio ger y tŷ. Rhyw filltir i ffwrdd mae'r marina, safle hwylio arbennig lle cynhelir gornestau rhyngwladol.

Rhosydd

Mae Pwllheli yn hen dref farchnad ac yn ganolfan i Benrhyn Llŷn. Tref lawn cymeriad ydy hi, gyda'i strydoedd cul, siopau a bwytai a'r farchnad ar y Maes bob dydd Mercher. Mae'n lleoliad perffaith ar gyfer ystod eang o weithgareddau hamdden, yn cynnwys hwylio, golff, marchogaeth a mynd am dro ar lan y môr.

Rhosydd B&B